{ko i ferch a fase yn lân}
1 Y verch a elwyr veurchwaer
2 a'm anwyl eglurwyl glaer
3 mae i'm bryd enbyd iownbwyll
4 drwy nerth Duw dim o ywrth dwyll
5 bod i'm cof byd a'm cyfeirch
6 beidio a hi bedw ai heirch
7 [294] ba dal ym bvm oi dylyn
8 bod er da beidio a'r dyn
9 llygru a wnaeth gaeth gerydd
10 lliw'r dyn er ys llawer dydd
11 ni allaf nerth ni pherthyn
12 ni ellir dim a lliw'r dyn
13 meddylior wyf mav ddolur
14 myvi ai gwn mav vwy gur
15 ych{waen} gyd ar y chwaneg
16 a ludd i deurudd yn deg
17 Enid leddf anadl eiddig
18 oi enau du a wna dig
19 gwedi gollyngo tro trwch
20 y gwr dygn ail eiry degwch
21 anadl val mwg y vownen
22 yn i chylch pam nas gylch gwen
23 govid tost val rhwym gevyn
24 yw gado'r delf gyd a'r dyn
25 delw o bren gwern dan vernais
26 dogn benrhaith o saerwaith sais
27 dryg cadwad dygiad ai gwyr
28 llugorn llon ai llwgr yn llwyr
29 y pân Seisnig da ddigawn
30 a vydd drwg ym mwg y mawn
31 yniwl a ddwg yn awyr
32 gan yr haul wiw i lliw'n llwyr
33 cadeirgainc dderw coed argor
34 a vydd crin y min y mor
35 tramwyais hoywdrais hydreg
36 trefi y dyn tra fu deg
37 ystiwardaeth gaeth gariad
38 ond tra vo teg nid tref tad
39 da gwyr beri digaru
40 i phryd vyanwylyd vu
41 gorau gan eiddig oeryn
42 dogn du na bai deg y dyn
43 llychwinodd llwch oi enau
44 y dynyn mvreinwyn mav
45 rho Duw a Chadvan rhaid oedd
46 rhad a geidw rhydeg ydoedd
Dauid ap Gwilim